Cenhadon
Brian Fleet MBE, Uwch Is-lywydd, Pennaeth Adain Canolfan Ardderchowgrwydd, Airbus UK
Mae Brian Fleet, Uwch Is-lywydd Pennaeth Adain Canolfan Ardderchowgrwydd ym Mrychdwn, safle Gogledd Cymru - canolbwynt cynhyrchi adain ar gyfer amrywiol awyrennau masnachol Airbus - ond yn ychwanegol mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros weithrediadau Canolfan Ardderchowgrwydd Adain ar draws dau safle DU Airbus - ym Mrychdwn a Fitton ger Bryste.
Daeth Brian yn Uwch Is-lywydd Airbus ym mis Rhagfyr yn 1999, gan yn ddiweddarach gymryd ei swydd bresennol. Cyn hyn, treuliodd Brian dros 20 mlynedd ym Mrychdwn ar ôl ymuno fel prentis peiriannydd yn 1974. Roedd y safle bryd hynny yn rhan o British Aerospace, yn ddiweddarach BAE SYSTEMS, hyd nes creadigaeth Aribus a wnaeth integreiddio’r cwmni yn 2001.
Mae gyrfa Brian wedi ei weld yn cymryd swyddogaethau uwch cynyddol o fewn y busnes a phan yn 1995 symudodd o dîm rheolaeth i gymryd rôl allweddol mewn rhan arall o British Aerospace, gan ddod yn Gyfarwyddwr o’r Royal Ordnance, sef cwmni arfau bach, sydd wedi ei leoli yn Radway Green yn Crewe, Cheshire. Yn ychwanegol yn 1998 fe’i hapwyntiwyd hefyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Heckler and Koch yn yr Almaen.
Dychwelodd Brian yn ddiweddarach i Airbus i Frychdwn i’w wreiddiau ffyrdd awyrofod masnachol ac fe’i dyfarnwyd yr MBE am ei wasanaethau i Awyrofod Masnachol a Dyfarniad Alumni Aur ar gyfer Addysg Bellach o’r AoC yn 2003.Mae Brian yn gadeirydd Grŵp Awyrofod Gogledd Cymru ac yn Llywodraethwr Ysgol Ramadeg Bechgyn Wirral.
Ganwyd Brian Fleet yn 1956 yn Bebington, Wirral a mynychodd Ysgol Ramadeg Wirral. Mae’n briod i Debbie ac mae ganddo tri o blant sydd bellach wedi tyfu i fyny, Kelly, Mark a Paul.
John Bath, Prif Weithredwr, Brecon Pharmaceuticals
Datganodd Brecon Pharmaceuticals, y darparydd gwasanaethau pecynnau prawf masnachol a meddygol i’r sector iechyd, apwyntiad John Bath yn ddiweddar i’r swydd Prif Weithredwr, gyda chyfrifoldeb dros arwain ar gynllun tyfiant pum mlynedd Brecon.
Gwr gradd o Brifysgol Rhydychen, mae gan Mr Bath dysteb drawiadol afaelgar sydd yn ymestyn dros gyfnod o 28 mlynedd yn y diwydiant pacio, y mae’r 16 mlynedd diwethaf ohonynt wedi eu hymroi’n unig i bacio iechyd. Mae wedi dal uwch swyddi rheoli cyffredinol yn y DU a’r UDA.
Yn fwy diweddar, roedd Mr Bath yn Llywydd, Gweithredu Ewrop, ar gyfer PCI Services, y cwmni mwyaf yn y byd ar gyfer darparu pacio a gwasanaethau canmoliaethus i’r diwydiant fferyllol. Yn ystod ei daliadaeth, gwnaeth gwerthiant mwy na dyblu trwy ymestyniad organig. Arweiniodd John y blaen ar gaffaeliad sylweddol gan gynnwys prynu’r cyfleuster pacio AstraZeneca cynt yn Corby, Northants. Mae John Bath yn frwdfrydig am ei rôl, a sylwodd bod Brecon wedi ei leoli mewn lle unigryw i gyfarfod â’r galw cynyddol am weithgynhyrchu sydd yn cael ei osod allan. “Mae gan Brecon enw da gwych, diwylliant hynod o bositif, a chyfleusterau trawiadol gyda digon o le i ymestyn. "
Roger Evans, Cyfarwyddwr Peiriannau, INA Bearing Co.
Mae Roger yn gyfarwyddwr Peiriannau INA Bearing Co. gweithgynhyrchwr cydran injan trachywiredd ar gyfer y diwydiant moduron, wedi ei leoli yn Llanelli, De Cymru. Mae wedi treulio 27 mlynedd yn y diwydiant moduro. Yno, mae gyrfa Roger wedi symud ymlaen trwy rolau gwahanol mewn nifer o ardaloedd ymarferol dros 26 mlynedd. Mae yn gyfarwyddwr Fforwm Moduron Cymru ac yn gyfarwyddwr Cyngor Rheoli Cymru. Mae’n aelod o Fwrdd Ymgynghorol o Ffederasiwn Cyflogai Peirianyddion ac yn Aelod o Grŵp Cychwyn a Gorffen Gweithgynhyrchu.