Am MAS Cymru

Mae Gwasanaeth Ymgynghori Gweithgynhyrchu Cymru (MAS) yn rhan o fenter DTI i helpu gweithgynhyrchwyr i wella cynhyrchiant a pherfformiad. Mae'n gynllun cenedl gyfan, sydd yng Nghymru, yn cael ei redeg gan gonsortiwm o gwmnïau ymgynghori preifat ac fe'i cefnogir gan Awdurdod Datblygu Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae MAS Cymru yn anelu i:

.Gyflwyno buddion gweladwy trwy ddarparu cyngor a chymorth ymarferol.
. Gweithio gyda phartneriaid newydd a'r rhai sy'n bodoli eisoes i ddarparu gwerth a chymorth i weithgynhyrchwyr Cymru.
. Darparu atebion i broblemau gweithgynhyrchu.

Mae MAS yn wasanaeth sydd yn cael ei gyflwyno gan bobl yn y byd gweithgynhyrchu ar gyfer pobl yn y byd gweithgynhyrchu. Rydym yn canolbwyntio ar helpu gweithgynhyrchwyr i weithredu arfer gorau fel rhan o strategaeth tyfiant hir dymor cynaliadwy.

Mae yna nifer o ffyrdd y gall MAS Cymru helpu:

Ar y lefel weithredol trwy:

Lleihau gwastraff, gwella cynhyrchiant a chreu mantais weithredol ar draws y busnes, o brosesi archeb gwerthiant i anfon.

O fewn datblygiad cynnyrch a chyflwyno drwy:

Creu arloesi mewn dyluniad, gostwng yr amser i farchnad a lleihau costau cynhyrchiad trwy beiriannu cydamserol.

Yn eich cadwyn cyflenwad trwy:

Gwella'r cysylltiadau logistaidd a gweithio gyda chyflenwyr lleol i ddatblygu eu cynhyrchion i gydweddu â'ch anghenion.

Personél Allweddol

Paul Byard, Prif Weithredwr

Rheolwr Cyffredinol / Technolegol a Chyfarwyddwr Datblygiad Busnes sydd â record wedi ei brofi mewn cynllunio strategol i gael tyfiant proffidiol. Y gallu i fod yn strategaethol a gweithredu drwy werthiant, marchnata, ymchwil, datblygiad a rheoli prosiect. Mae hyn i'w gyflawni mewn modd effeithiol amserol i gyflawni cynlluniau tyfiant y cwmni.

Yn gyfrifol am wella am gyfraniad elw a wneir o'r holl gynhyrchion. Mae hyn yn gofyn gwybodaeth ddofn / manwl o anghenion cwsmer i ddylunio a chyflawni eu hanghenion wrth barhau i sicrhau bod rhesymoliad cydran a chynnyrch anfuddiol yn cael eu rheoli rhwng yr holl swyddogaethau. Mae hyn yn galluogi Amser i Farchnad cyflymach ar leiafswm cost cyfalaf.

Gyda'r galw cynyddol am gynhyrchion newydd arloesol a gwasanaethau sydd yn gofyn agwedd integredig i weithgareddau busnes. O gyn-cysyniad, datblygiad i lansio gan sicrhau bod y cynnyrch a'r gwasanaeth yn gallu cyflawni safonau uchel o berfformiad. Rhaid rhoi'r agwedd yma gael ei roi yn ei gyd-destun gyda Strategaethau VOC, ffyrdd Technoleg ac wedi eu cysylltu i Strategaethau cymorth Llywodraeth.

William Campion, Cynghorydd MAS

Mae Will yn Beiriannydd Siartredig gyda dros 10 mlynedd o brofiad mewn gweithgynhyrchu. Gan gychwyn fel Peiriannydd Cynhyrchu yn Sony fe gafodd brofiad mewn rhaglennu peiriant, diagnostic diffyg, cyflwyniad cynnyrch newydd a chomisiynu cyfarpar. Ychwanegwyd at y profiad yma gyda Harman-Becker a chyflenwr Haen 1 Moduro o systemau clywedol.

Treuliodd Will tair blynedd wedyn mewn rheolaeth cynhyrchu yn y diwydiannau Moduro a Cosmetig cyn ymuno gyda Strategem fel ymgynghorydd gwelliant proses. Mae Will wedi ymwneud gyda nifer o brosiectau gwelliant llwyddiannus mewn ystod eang o gwmnïau ar draws Cymru. Mae Wil wedi ymuno gyda MAS Cymru yn ddiweddar fel Cynghorydd.

Paul Bailey, Cynghorydd MAS

Mae gan Paul gefndir mewn peirianneg ac mae wedi gweithio ar nifer o raglenni wedi eu dylunio i helpu gweithgynhyrchwyr Cymru i wella eu cystadleugarwch. Mae'r rhain yn cynnwys Rhwydwaith Arloesiad Cynnyrch i helpu busnesau bach a chanolig eu maint gyda chynnyrch newydd a dylunio proses, y prosiect GMC Resource Network yn helpu busnesau electronig i lwyddo i gyrraedd cydymffurfiad EMC. Bydd profiad Paul o redeg rhaglenni mawr yng Nghymru yn cael eu defnyddio i alluogi MAS Cymru i weithredu'n effeithiol ac yn effeithlon.

Am fwy o wybodaeth ar MAS Cymru a wnewch chi gysylltu gyda ni os gwelwch yn dda.